Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 23 Hydref 2017
Amser:
14.02 -
15.58
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Hywel Dafydd (Ymchwilydd) Sally Jones (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod ac estynnwyd croeso i Adam Price AC a etholwyd yn aelod o'r Pwyllgor ar 18 Hydref.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar am ganfyddiadau ei adroddiad ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 17 Hydref. Hysbyswyd y Pwyllgor gan yr Archwilydd Cyffredinol y byddai adroddiad arall ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.
3.2 Nododd yr Aelodau yr adroddiad a chytunwyd i ymgymryd ag ymchwiliad pan gyhoeddir adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
4.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl
4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r ymchwiliad ganolbwyntio ar effaith datblygiadau polisi ehangach; trefniadau dosbarthu cyllid a chynllunio ariannol; a monitro a gwerthuso effaith y rhaglen. Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig.
5.1 Clywodd yr Aelodau ddadansoddiad llafar o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gan Hywel Dafydd o'r Gwasanaeth Ymchwil. Siaradodd Sally Jones o'r Tîm Cyfathrebu am ganfyddiadau'r cyfarfodydd grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
5.2 Trafododd yr Aelodau gwmpas yr ymchwiliad a thystion posibl ar gyfer Rhan 1 yr ymchwiliad.
6.1 Trafododd yr Aelodau bapur ar y deunydd briffio maent yn ei gael i'w cynorthwyo gyda'u gwaith paratoi ar gyfer sesiynau casglu tystiolaeth.